Film
Invasion of the Bodysnatchers
Nodweddion
- Math Film
UDA | 1978 | 15 | 111’ | Phillip Kaufman
Donald Sutherland, Brooke Adams, Jeff Goldblum, Veronica Cartwright, Leonard Nimoy
Mae Matthew Bennell, yr arolygydd iechyd, yn cymryd yn ganiataol, pan fydd ei ffrind Elizabeth yn cwyno am hwyliau rhyfedd ei gŵr, mai problemau priodasol sydd ar fai. Fodd bynnag, mae’n dechrau poeni pan fydd mwy o bobl yn adrodd am ymddygiad tebyg. Caiff ei bryder ei gadarnhau pan fydd yr awdur Jack Bellicec a’i wraig Nancy yn dod o hyd i gorff mwtanaidd. O dan warchae gelyn anweledig, rhaid i Bennell weithio’n gyflym cyn i’r ddinas gael ei llethu. Mae’r ail-gread brawychus yma o glasur cyfnod y ‘Red Scare’ yn y 1950au yn edrych ar y niwl cydymffurfiol ôl-hipiaidd yn San Francisco, gyda pherfformiad canolog anhygoel gan y diweddar Donald Sutherland.