Film

India's 1st Best Trans Model Agency (adv15)

adv15
  • 2024
  • 1h 28m
  • Wales

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Ila Mehrota
  • Tarddiad Wales
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 28m
  • Tystysgrif adv15
  • Math Film

Wedi’i ffilmio dros saith mlynedd, dyma daith ryfeddol Rudrani Chettri a’i chyfeillion yng nghymuned drawsryweddol ‘Hijra’ Delhi. Tra bod cymdeithas Hindŵaidd draddodiadol yn cydnabod hunaniaeth hynafol Hijra fel ‘trydydd rhyw’ cyfreithlon (sy’n cael ei ystyried yn sanctaidd yn aml), nid yw hyn yn golygu ei fod yn cael ei dderbyn. Mae llawer o’r Hijra’n cael eu gwrthod gan eu teuluoedd a’u gorfodi i fyw a gweithio ar y strydoedd. Mewn ymgais i gael ei derbyn, mae Rudrani’n creu ac yn lansio asiantaeth fodelu, ac yn dod yn ymgyrchydd Traws mwyaf adnabyddus Delhi, a hynny dan feirniadaeth y cyfryngau. Ffilm ddogfen obeithiol; dyma stori am gariad a cholli a llawenydd ar y llwyfan modelu.  

+ Sesiwn holi ac ateb gyda Ila Mehrota a cyfarwyddwyr Trailblazers Sobia Bushra ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd.

___

+ Trailblazers ar y dangosiadau canlynol
Cymru | 2024 | 19’ | Sobia Bushra

Dydd Gwener 15 Tachwedd, 8.30pm
Dydd Sul 17 Tachwedd, 11.40am
Dydd Mawrth 19 Tachwedd, 12pm
Dydd Mercher 20 Tachwedd, 2.45pm

Mae Asian Purrsuasion wedi newid y syniad o sut gall cymuned LHDTC+ yng Nghymru edrych. Gan weithio gyda Dawnsfa Cymru a’r Queer Emporium, maen nhw wedi helpu’r sîn gwiar i ffynnu a chyrraedd uchelfannau o fywiogrwydd a rhagoriaeth. Mae Alia, Muz ac Aiman yn mynd â ni ar daith i ddysgu mwy am eu bywydau ac i ddathlu llawenydd Cwiar De Asiaidd.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Darganfod mwy

Darllenwch erthygl Canolfan Ffilm Cymru gyda’r awdur, y perfformiwr a’r trefnydd cymunedol Aiman Rahim am themâu’r ffilm.

Share