Film

I Didn't See You There

£7 - £9

Nodweddion

UDA | 2022 | 76’ | I’w chadarnhau | Reid Davenport

Wedi’i ysgogi ar ôl gweld pabell syrcas yn cael ei chodi tu allan i’w fflat yn Oakland, mae gwneuthurwr ffilmiau anabl yn lansio taith fyfyriol sy’n archwilio hanes hynodrwydd, gweledigaeth, ac (an)weledigrwydd. Mae’r ffilm, sydd wedi’i saethu’n gyfan gwbl o safbwynt corfforol y cyfarwyddwr Reid Davenport – wedi’i osod ar ei gadair olwyn neu wedi’i saethu â llaw – yn gerydd diamwys i’r norm bod pobl anabl yn cael eu gweld ond ddim eu clywed. Ffilm ddogfen hynod ddiddorol sy’n canolbwyntio ar draddodiad sinema safbwynt drwy ymgorffori estheteg anabledd a gynhyrchwyd drwy ymgorfforiad Davenport ei hunan.

Yr hyn mae pobl yn ddweud

“Doniol a chraff…Ffilm arbrofol sy’n llawn harddwch.”

—Matt Zoller Seitz, RogerEbert.com

Share

Times & Tickets