Film

How to Have Sex

  • 1h 31m

Nodweddion

  • Hyd 1h 31m

Prydain | 2023 | 91’ | 15 | Molly Manning Walker

Mia McKenna-Bruce, Shaun Thomas, Lara Peake

Gwyliau gwyllt arddegwyr yw testun ffilm gyntaf Molly Manning Walker fel cyfarwyddwr, ac mae’n syfrdanol o steilus a di-flewyn-ar-dafod wrth fynd i’r afael yn uniongyrchol â materion dyrys fel gorfodaeth a chydsyniad.

Dyma ffilm hynod symudol a thawel chwyldroadol, sy’n canolbwyntio ar Tara (Mia McKenna Bruce), merch yn ei harddegau sydd ar ei gwyliau gyda’i ffrindiau yn chwilio am ddiod, haul a rhyw mewn cyrchfan wyliau yn Creta. Ond pan fydd noson o bleseryddiaeth yn troi’n chwerw, mae Tara’n dechrau cwestiynu ei phrofiad, ei chyfeillgarwch, a’i dyfodol ei hunan, hyd yn oed wrth i’r partïo diddiwedd yn y golau neon barhau o’i chwmpas.

Share