Film

Hounds (15)

  • 1h 35m

Nodweddion

  • Hyd 1h 35m
  • Math Film

Moroco | 2023 | 95’ | 15 | Kamal Lazraq | Berber a Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Ayoub Elaid, Abdellatif Masstouri

Ym maestrefi Casablanca, mae tad a mab yn byw o ddiwrnod i ddiwrnod drwy wneud swyddi masnachu bach ar gyfer y maffia lleol. Un noson, maen nhw’n cael y dasg o herwgipio dyn. Mae’n noson hir, a does ganddyn nhw ddim syniad beth sydd o’u blaenau. Dyma ffilm nodwedd hyderus gyntaf y cyfarwyddwr Kamal Lazraq, sy’n ddrama drosedd deimladwy ac atmosfferig.

Share