Film

Hoard (18)

  • 2h 6m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 6m
  • Math Film

Prydain | 2023 | 126’ | 18 | Luna Carmoon | Joseph Quinn, Saura Lightfoot-Leon

Saith oed yw Maria, ac mae ei phlentyndod yn ne ddwyrain Llundain gyda’i mam Cynthia, sy’n gasglwr obsesiynol, yn teimlo’n ddisglair ac yn hudol tan i drasiedi wahanu’r ddwy, ac mae Maria’n camu i fyd mwy confensiynol. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Maria yn ei harddegau ac yn ceisio ailgysylltu â’i mam drwy’r unig ffordd mae’n gwybod sut – chwilota mewn biniau am drysorau a chasglu llond bagiau duon o sbwriel. Pan mae’n cwrdd â Michael, arddegwr cythryblus arall, maen nhw’n datblygu cysylltiad dwys ac anifeilaidd. Mae ffilm nodwedd gyntaf fentrus ac anarferol Carmoon yn dangos ei dawn fel cyfarwyddwr i gadw llygad arni. Gyda pherfformiadau ymroddedig y cast anhygoel yn ei phweru, mae’r ffilm yn adrodd stori ffyrnig, ddigyfaddawd ac emosiynol am rywioldeb cynnar mennyw ifanc a’i pherthynas benfeddwol gyda gorffennol trawmatig.

Fel rhan o'n partneriaeth gyda Pyst x Lŵp rydyn yn dangos fideo cerddoriaeth cyn ein ffilmiau. Y nesaf yn y prosiect bydd trac newydd Berian, DSD, bydd yn chwarae cyn pob dangosiad o Hoard.

Share