Talks
Hijinx Unity Film Festival 2024: Sesiwn i’r diwydiant - Pa Mor Bell Ydyn Ni Wedi Dod?
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
- Math Film
7 blynedd yn ôl lansiodd Hijinx ei 7 Safon Castio ar gyfer diwydiannau’r sgrin yn ymwneud ag arferion castio cynhwysol.
Ers hynny gwelwyd nifer o lwyddiannau trawiadol: Craith/Hidden yma yng Nghymru, Ralph & Katie yn ffilmio yn Lloegr... ond a ddylai’r diwydiant fod wedi symud ymhellach? A yw’r 7 Safon Castio yn dal yn berthnasol? A ddylen nhw gael eu hatgyfnerthu, eu newid neu eu taflu o’r neilltu?
Ymunwch â ni wrth i ni drafod y dirwedd hygyrchedd yn y byd teledu a ffilm, ailedrych ar yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac edrych tua’r dyfodol, gyda phanelwyr gwadd o gynhyrchwyr i gyfarwyddwyr, cyllidwyr i awduron, a chlipiau o brosiectau sydd ar y gweill.
__
Bydd y Digwyddiad Diwydiant hwn yn cael ei ddehongli o Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain a bydd capsiynau byw yn cael eu darparu yn Saesneg.
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Queer (18)
Mae Lee’n edrych ’nôl ar ei fywyd yn Ninas Mecsico ymhlith myfyrwyr coleg Americanaidd a pherchnogion bar, gan oroesi ar swyddi rhan amser a budd-daliadau’r GI Bill. Mae’n mynd ar drywydd dyn ifanc o’r enw Allerton, sy’n seiliedig ar Adelbert Lewis Marker.