Film

Hijinx Unity Festival 2024: Sesiwn Ffilmiau Byr 4

15
  • 1h 20m

£5 - £8

Nodweddion

  • Hyd 1h 20m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Dychan anllad ym Mryste, drama gomedi deuluol yng Nghanada, gwrachyddiaeth yn Lloegr yr 1600au, distopia yn Llundain y dyfodol a mabwysiadu yng Nghaerfyrddin yr 20fed ganrif y cyfan yn cael sylw yn ein casgliad o ffilmiau byr, cymysgedd o ffefrynnau’r ŵyl a dangosiad cyntaf y byd (Lost & Found). Rhybudd am y cynnwys: peth iaith sarhaus

The Cunning
DU | 2022 | cynghorir 12A | 13 mun | Alexandra Maher
Rhybudd am y cynnwys: trais gwaedlyd tuag at anifail am gyfnod byr

Chicken
Canada | 2023 | cynghorir PG | 14 munud | Lucy McNulty ac Emma Pollard

Steve Parker
DU | 2024 | cynghorir 15 | 10 munud | Benedict Robinson
Rhybudd am y cynnwys: peth iaith gref a gwahaniaethol

Bebe AI
DU | 2021 | cynghorir 15 | 13 mun | Rebekah Fortune

Lost and Found
Cymru | 2024 | cynghorir 12A | 15 munud | Daniel McGowan
Rhybudd am y cynnwys: defnydd o iaith wahaniaethol unwaith, themâu mabwysiadu a gwrthod

__

Bydd yr holl gwestiynau ac atebion a thrafodaethau panel, gan gynnwys y Digwyddiad Diwydiant yn cael eu dehongli o Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain a bydd capsiynau byw yn cael eu darparu yn Saesneg.

Mae holl ffilmiau'r ŵyl yn ddangosiadau hamddenol. Mae hyn yn golygu y bydd goleuadau'r gynulleidfa yn cael eu gadael ymlaen yn isel ac mae croeso i chi adael eich sedd, gwneud sŵn a symud o gwmpas.

Share

Times & Tickets

Key

  • DS Disgrifiadau Sain Saesneg ar gael
  • BSL Iaith Arwyddion Prydain
  • M Amgylchedd Ymlacio
  • IM Is-deitlau Meddal