Film

Hijinx Unity Festival 2024: Sesiwn Ffilmiau Byr 3

18

Nodweddion

  • Tystysgrif 18
  • Math Film

Animeiddio, drama, comedi dywyll, rhaglen ddogfen wedi’i hanimeiddio a dawns yn trafod themâu rhywioldeb, natur, teulu, digalondid ac uchelgais bersonol yn y detholiad hwn o ffilmiau o Gymru a’r Deyrnas Unedig.

Rhybudd am y cynnwys: cynnwys cignoeth.

Dead Cat Film
DU | 2023 | cynghorir 12A | 5 munud | Josie Charles a Nathan Miller

A Kooky Witchy Girl
Cymru | 2023 | cynghorir U | 3 munud | Lindsay Spellman

Stones and Dust
Cymru | 2022 | cynghorir 12A | 23 munud | Daniel McGowan
Rhybudd am y cynnwys: defnydd ysgafn o gyffuriau

Coming Out Autistic
DU | 2022 | cynghorir 18 | 4 munud | Steven Fraser
Rhybudd am y cynnwys - delweddau cignoeth a pheth iaith gref

Four Solos in the Wild (part 2) - Let Go and A Safe Place to Rest
DU | 2023 | cynghorir U | 10 munud | Andrew Kelly, Graham Busby, Ray Jacobs

Oasis
Canada | 2022 | cynghorir U | 15 munud | Justine Martin

__

Bydd yr holl gwestiynau ac atebion a thrafodaethau panel, gan gynnwys y Digwyddiad Diwydiant yn cael eu dehongli o Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain a bydd capsiynau byw yn cael eu darparu yn Saesneg.

Mae holl ffilmiau'r ŵyl yn ddangosiadau hamddenol. Mae hyn yn golygu y bydd goleuadau'r gynulleidfa yn cael eu gadael ymlaen yn isel ac mae croeso i chi adael eich sedd, gwneud sŵn a symud o gwmpas.

Share