Film

Hijinx Unity Festival 2024: Dwy Ffilm gan Otto Baxter

15
  • 2023
  • 2h 0m
  • United Kingdom

£5 - £8

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Otto Baxter
  • Tarddiad United Kingdom
  • Blwyddyn 2023
  • Hyd 2h 0m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Mae’r ffilm fer gyntaf erioed i gael ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan rywun â Syndrom Down - Otto Baxter talentog iawn - The Puppet Asylum yn cyfuno arswyd, comedi dywyll a thrac sain effeithiol a phyped taflwr llais aflednais ei iaith. Stori macâbr plentyn sy’n cael ei gamddeall ar lwybr i reoli ei fywyd ei hun, a gyda The Puppet Asylum mae’r rhaglen ddogfen sydd wedi ennill llu o wobrau i Otto Baxter: Not A F***ing Horror Story, sy’n olrhain y broses o ddwyn gweledigaeth Otto yn fyw, a’r problemau ar hyd y ffordd.

Rhybudd am y cynnwys: iaith gref a rhai delweddau graffig

Not a F***ing Horror Story
DU | 2023 | 15 | 1awr 24 munud | Peter Beard a Bruce Fletcher

The Puppet Asylum
DU | 2023 | 15 | 28 munud | Otto Baxter

_____

Mae holl ffilmiau'r ŵyl yn ddangosiadau hamddenol. Mae hyn yn golygu y bydd goleuadau'r gynulleidfa yn cael eu gadael ymlaen yn isel ac mae croeso i chi adael eich sedd, gwneud sŵn a symud o gwmpas.

Share

Times & Tickets

Key

  • DS Disgrifiadau Sain Saesneg ar gael
  • BSL Iaith Arwyddion Prydain
  • M Amgylchedd Ymlacio
  • IM Is-deitlau Meddal