Nodweddion
- Hyd 10h 0m
- Math Festival Pass
Bydd prynu tocyn diwrnod yn caniatáu mynediad i’n holl ddangosiadau ar y diwrnod o’ch dewis am bris llawer is.
___
Y broses o archebu tocyn diwrnod:
- Dewiswch pa ddiwrnod yr hoffech chi archebu am.
- Prynwch docyn diwrnod (pris llawn neu gonsesiwn). Mae hyn wedyn yn ychwanegu 'tag' i'ch cyfrif. Pan fydd y 'tag' yn cael ei roi ar eich cyfrif, bydd y dangosiadau ar y diwrnod hwnnw yn ymddangos fel rhai 'am ddim'.
- Ewch yn ôl i dudalen tymor ac archebwch y dangosiadau yr hoffech fynychu ar eich diwrnod dewisol yn unigol.
Nodyn: Dim ond un tocyn diwrnod fesul cyfrif y gallwch chi ei archebu'n llwyddiannus; mae hyn oherwydd bod y 'tag' (sy'n dangos y dangosiadau unigol fel rhai 'am ddim') ond yn berthnasol i docyn undydd fesul cyfrif.
___
Prynwch docyn diwrnod ar gyfer dydd Gwener 8 Tachwedd a gallwch weld y cyfan isod am ddim ond £25 (pris llawn) neu £17.50 (pris gostyngol).
11.00yb | Autisme: Le Petit Chasseur de Fantômes
2.30yh | Sesiwn i’r diwydiant - Pa Mor Bell Ydyn Ni Wedi Dod?
3.45yh | Dwy Ffilm gan Otto Baxter
6.00yh | Sesiwn Ffilmiau Byr 1
8.00yh | Champions
___
Prynwch docyn diwrnod ar gyfer dydd Sadwrn 9 Tachwedd a gallwch weld y cyfan isod am ddim ond £25 (pris llawn) neu £17.50 (pris gostyngol).
11.30yb | Sesiwn Ffilmiau Byr 2 - Addas I Deuluoedd
1.30yh | Sesiwn Ffilmiau Byr 3
3.30yh | Inside My Heart
6.15yh | Sesiwn Ffilmiau Byr 4
8.15yh | Shadow
__
Bydd yr holl gwestiynau ac atebion a thrafodaethau panel, gan gynnwys y Digwyddiad Diwydiant yn cael eu dehongli o Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain a bydd capsiynau byw yn cael eu darparu yn Saesneg.
Mae holl ffilmiau'r ŵyl yn ddangosiadau hamddenol. Mae hyn yn golygu y bydd goleuadau'r gynulleidfa yn cael eu gadael ymlaen yn isel ac mae croeso i chi adael eich sedd, gwneud sŵn a symud o gwmpas.
More at Chapter
-
- Film
Hijinx Unity Festival 2024: Inside My Heart
An ode to the liberating power of unlimited imagination, the actors from Theatr Kamak reflect on their own lives, dreams and limitations as they create a performance of Furia.
-
- Film
Hijinx Unity Festival 2024: Dwy Ffilm gan Otto Baxter
The first ever short film written and directed by someone with Down’s syndrome accompanied by the multi-award-winning documentary Not A F***ing Horror Story, charting the process of bringing Otto’s vision to life, and the pitfalls along the way.