Film

Here

  • 1h 24m

£7 - £9

Nodweddion

  • Hyd 1h 24m
  • Math Film

Gwlad Belg | 2023 | 84’ | PG | Bas Devos | Ffrangeg, Rwmaneg, Tsieinëeg gydag isdeitlau Saesneg | Stefan Gota, Liyo Gong

Mae Stefan, gweithiwr adeiladu o Rwmania sy’n byw ym Mrwsel, yn cwrdd â Shuxiu, Belges o dras Tsieineaidd sy’n paratoi doethuriaeth ar fwsoglau. Mae’r sylw mae hi’n ei dalu i rywbeth sydd bron yn anweledig yn ei ddal yn ei unfan. Gyda gosgeiddrwydd tawel mae’r ffilm yma’n cyfleu hiraeth bywyd trefol cyfoes a’r potensial am hudoliaeth sy’n dal i fodoli mewn gofodau sy’n cael eu rhannu gan ddieithriaid o wahanol fydoedd.



Sinema Slime Mother

O glasuron cwlt i ffilmiau diweddar, mae’r detholiad yma o ffilmiau – a ddewiswyd mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer – sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.

Mae’r ffilm yma, sydd wedi’i dewis mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer, yn rhan o Sinema Slime Mother, sef detholiad o glasuron cwlt a ffilmiau diweddar, sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, ac yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae pob tocyn ar gyfer y tymor yma ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5. I weld mwy o ffilmiau’r tymor yma, ewch i /.......

Stefan meetgs Shuxiu, whose attention to the near-invisible world changes his.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets