Film
Halloween (15)
- 1h 31m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 31m
UDA | John Carpenter | Jamie Lee Curtis, Donald Pleasance
Ar noson Galan Gaeaf oer yn 1963, fe lofruddiodd plentyn ifanc o’r enw Michael Myers ei chwaer, Judith, yn greulon. Cafodd ei garcharu am 15 mlynedd. Ond ar 30 Hydref, 1978, mae Michael yn dianc. Mae’n dychwelyd i’w dref enedigol Haddonfield, Illinois, ac yn chwilio am ei darged nesaf.
Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.
1960, genedigaeth degawd; y boblogaeth ychydig yn iau, a’r dillad (a’r moesau o bosib) ychydig yn fwy llac. Ymysg lliwiau llachar a hyder Llundain oes y swing, roedd rhywbeth arall ar ddod – y ffilm slasher. Cafodd dau wneuthurwr ffilm o Brydain, Michael Powell ac Alfred Hitchcock, ysbrydoliaeth yn eu cysgod eu hunain a dechrau chwyldro genre. Roedd Psycho, yn fyth Americanaidd pendant, rhywbeth ofnadwy yn llechu yn y llefydd gwledig cyfyngol, yn llwyddiant ysgubol. Ond yn gynharach y flwyddyn honno rhyddhaodd Powell Peeping Tom, ffilm benfeddwol o voyeuraidd sydd wedi’i gosod yn strydoedd Soho, efallai’n rhy agos i adre i’r beirniaid o Lundain ar y pryd, y bu i’w casineb tuag at y rhyw a’r trais yn y ffilm ladd gyrfa Powell i bob pwrpas. Mae bellach yn cael ei hystyried fel un o’r ffilmiau arswyd mwyaf dylanwadol a steilus erioed, a gallwn edrych ar y ddwy gyda’i gilydd a myfyrio ar gyfnod cyffrous i ffilm genre. Ymunwch â ni mewn sgwrs gyda Rebecca McCullum, cyflwynydd Talking Hitchcock, i ddysgu mwy am y stori ddiddorol yma.