Film

GURU LIVE CYMRU: YSGRIFENNU AR GYFER Y TELEDU

  • 1h 0m

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

SINEMA 2

Guru Live Cymru yw ein cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer talent greadigol sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghaerdydd.

O'r cysyniad i'r sgrin gyda Kayleigh Llewellyn a Nathaniel Price. Rhys Edwards fydd yn arwain y sesiwn.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sicrhau eich llwyddiant cyntaf, elfennau allweddol llwyddiant a chipolwg ar sut i fynd ati gyda’r grefft o ysgrifennu ar gyfer y teledu.

Mae Kayleigh Llewellyn yn awdur sydd wedi ennill BAFTA a chafodd ei henwi yng ngwobr Torri Trwodd BAFTA yn 2019. Kayleigh yw crëwr cyfresi clodwiw In My Skin, ac mae ei chredydau ysgrifennu eraill yn cynnwys Chloe a Killing Eve. Mae Kayleigh bellach yn addasu nofel Rosa Rankin-Gee, Dreamland yn gyfres ddrama chwe rhan ar gyfer BBC One. Mae Kayleigh hefyd yn addasu nofel Big Swiss gan Jen Beagin ar gyfer HBO, A24 a HyperObject Adam McKay, a hi yw cynhyrchydd gweithredol y ddau brosiect.

Awdur ffilm, teledu, theatr a radio yw Nathaniel Price. Yn 2017 cafodd Nathaniel ei enwi’n seren y dyfodol ar Restr Doniau Newydd y BBC. Ers hynny, mae Nathaniel wedi ysgrifennu ar gyfer drama BBC One Noughts & Crosses, Tin Star II a III ar Sky ac ail a thrydedd cyfres The Outlaws i’r BBC. Mae disgwyl i addasiad wyth rhan Nathaniel o nofel Bernardine Evaristo Mr Loverman ar gyfer Fable Pictures/BBC, gael ei ryddhau yn 2024.

Parti Cloi Guru Live Cymru ’24: 20:00 - 21:15

Ymunwch â ni ar ôl y sesiwn olaf am ddiod a danteithion i gloi'r diwrnod.

Mae lleoedd yn brin a dim ond ar gael i'r rhai sydd wedi archebu a mynychu sesiwn Guru Live Cymru. Os hoffech chi ddod i’r Parti Cloi, e-bostiwch cymru@bafta.org ar ôl archebu eich sesiwn Guru Live Cymru.

Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn ac rydych chi o dan 18, neu os hoffech ddod gyda rhywun o dan 18 oed, anfonwch e-bost at cymru@bafta.org cyn y digwyddiad.

Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, bydd angen i’r rhiant neu warcheidwad gadarnhau wrth BAFTA eu bod yn fodlon i’r unigolyn ddod i’r digwyddiad a llofnodi ffurflen ganiatâd. Ni fydd modd i ni dderbyn neb o dan 18 oed i’n digwyddiad heb ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad.

Share