Film

Guru Live Cymru: Actio ar gyfer y Sgrin

  • 1h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m

Guru Live Cymru yw ein cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer talent greadigol sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghaerdydd.

Beth sydd ei angen i gael eich gwaith cyntaf ar y sgrin? Gwrandewch ar gyngor ar glyweliadau, cael asiant, a sut i roi hwb i’ch gyrfa actio sgrin gyda Maeve Courtier-Lilley (The Red King, Silent Witness), Carly-Sophia Davies (The Eternal Daughter, Midsomer Murders), Sophie Melville (The Way, The Pact) ac Erin Richards (Gotham, Save the Cinema). Rebecca Hardy fydd yn arwain y sesiwn.

Parti Cloi Guru Live Cymru ’24: 20:00 - 21:15

Ymunwch â ni ar ôl y sesiwn olaf am ddiod a danteithion i gloi'r diwrnod.

Mae lleoedd yn brin a dim ond ar gael i'r rhai sydd wedi archebu a mynychu sesiwn Guru Live Cymru. Os hoffech chi ddod i’r Parti Cloi, e-bostiwch [email protected] ar ôl archebu eich sesiwn Guru Live Cymru.

Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn ac rydych chi o dan 18, neu os hoffech ddod gyda rhywun o dan 18 oed, anfonwch e-bost at [email protected] cyn y digwyddiad.

Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, bydd angen i’r rhiant neu warcheidwad gadarnhau wrth BAFTA eu bod yn fodlon i’r unigolyn ddod i’r digwyddiad a llofnodi ffurflen ganiatâd. Ni fydd modd i ni dderbyn neb o dan 18 oed i’n digwyddiad heb ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad.

Share