Film

Green Border (15)

  • 2h 27m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 27m
  • Math Film

Gwlad Pwyl | 2023 | 147’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Agnieskza Holland | Pwyleg, Arabeg, Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Maja Ostaszewska, Behi Djanati Atai

Yn y coedwigoedd peryglus a chorsiog sy’n creu’r “ffin werdd” rhwng Belarws a Gwlad Pwyl, mae ffoaduriaid o’r Dwyrain Canol ac Affrica yn ceisio cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd, ac yn sownd mewn argyfwng geowleidyddol sydd wedi’i greu drwy sinigiaeth unben Belarws, Alexander Lukashenko. Mewn ymgais i bryfocio Ewrop, mae ffoaduriaid yn cael eu denu i’r ffin gan bropaganda sy’n addo llwybr hawdd i’r Undeb Ewropeaidd. Yn wystlon mewn rhyfel cudd, mae bywydau Julia, ymgyrchydd newydd sydd wedi rhoi’r gorau i’w bywyd cyfforddus, Jan, sy’n swyddog ifanc ar y ffin, a theulu o Syria yn cydblethu. Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl creu ei ffilm a enwebwyd am wobr Oscar, Europa Europa, mae ffilm deimladwy a hanfodol Agnieszka Holland yn agor ein llygaid ac yn siarad â’r galon, gan herio’r gwylwyr i fyfyrio ar y dewisiadau moesol sy’n cael eu gorfodi ar bobl gyffredin bob dydd.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share