i

Film

Gilda (PG)

PG
  • 1946
  • 1h 50m
  • USA

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Charles Vidor
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 1946
  • Hyd 1h 50m
  • Tystysgrif PG
  • Math Film

Mae “wyt ti’n weddus?” yn dod yn gwestiwn canolog yn y stori fflyrtaidd yma am foesoldeb. Mân-gamblwr o America yw Johnny Farrell, sydd newydd gyrraedd Buenos Aires yn yr Ariannin. Pan mae’n cael ei ddal yn twyllo mewn gêm o blacjac, mae’n llwyddo i siarad ei ffordd at swydd gyda pherchennog y casino, y pwerus Ballin Mundson. Mae’r ddau’n ffurfio partneriaeth gythryblus ar sail eu diffyg moesau, tan i Mundson ei gyflwyno i’w wraig newydd, Gilda, sy’n hen gariad i Johnny. Y stori droellog yma am lygredd a chwant, gyda delweddau moethus clasurol Hollywood, wnaeth Rita Hayworth yn seren gyda’i pherfformiad tanbaid.

Share