Performance

Gig: Mary Lattimore

  • 2h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Music

Telynores a chyfansoddwraig arbrofol sy’n byw yn Los Angeles yw Mary Lattimore.

Mae atgofion, golygfeydd, ac argraffiadau un-eiliad wedi bod yn llenwi bydysawd cerddorol Lattimore ers cryn amser. Fel un o storïwyr offerynnol amlycaf yr oes, mae ganddi’r “gallu annaearol i dynnu tant mewn ffordd sy’n gwneud i rywun gofio’n syth flas eu cacen pen-blwydd yn bump oed,” ysgrifenna Jemima Skala i Pitchfork.

Ar Silver Ladders, sef ei thrydedd LP ar label Ghostly, mae Lattimore yn cyrraedd ei gwaith mwyaf hyderus hyd yma, gan ehangu ar ei harddull o adrodd straeon offerynnol gyda chymorth y cynhyrchydd a’r gitarydd Neil Halstead (Slowdive, Mojave 3). Wedi’i recordio yn stiwdio Neil Halstead ger hen dref syrffio yn Lloegr cyn y cyfnod clo, mae’r caneuon ar Silver Ladders yn adlewyrchu atgofion byw Lattimore yn erbyn digalondid a disgleirdeb y môr.

“Gan wau gwe o ysblander hypnotig o sylfaen drôn amgylchynol, mae meistrolaeth y delynores a’r gyfansoddwraig Mary Lattimore ar ei chrefft heb ei thebyg yn y sbectrwm gwerin arbrofol ac amgen.” - ★★★ NARC

“Mae’r albwm aruchel Goodbye, Hotel Arkada yn hoff o haniaethu, ond mae’n cyffwrdd â rhywbeth sy’n ddiriaethol iawn - ac sy’n bersonol iawn. Dyma’r math o record rydych chi’n falch o’i glynu i’ch monolog mewnol, eich atgofion, a’ch ystyron.” - 5/5, Shindig! Magazine

“Awyrgylch gyfoethog a mymryn yn seicedelig, breuddwyd arnofiol.” - Uncut

Gyda chefnogaeth gan Warm Leveret. Sŵn meddal, yn ddi-gân ac yn fyfyriol, gan Emma Daman Thomas o’r band Islet. Prin yw’r offer mae Warm Leveret yn ei ddefnyddio, dim ond llais, telyn ac fx. Mae’r llais yn cael ei samplu a’i lŵpio ac mae’r delyn yn ddi-lol, gyda’i sain wedi’i hystumio drwy niwl ac oedi. Gwahanol wig i bob gig.

Share