
Nodweddion
- Math Music
Pob oedran | Lleoliad hygyrch i gadeiriau olwyn | Pris: £13 aderyn cynnar, neu £15 ar ôl Mai 10
Mae’r feiolinydd a chyfansoddwr caneuon o Ogledd America, Gaelynn Lea, yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers 2017 er mwyn cefnogi ei halbwm cysyniad diweddaraf, Music from Macbeth. Bydd yn perfformio gyda’r act gefnogol Rightkeysonly.
Ewch i’n tudalen Ymweld i gael gwybodaeth am oriau agor a theithio.
Ewch i’n tudalen Hygyrchedd a Chyfleusterau i gael gwybodaeth am hygyrchedd, parcio a thoiledau.
___
Ynglŷn â'r artistiaid
Ers ennill Cystadleuaeth Tiny Desk NPR Music yn 2016, mae Gaelynn Lea wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’i chaneuon gwreiddiol swynol a’i halawon ffidil traddodiadol. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cydweithio ag artistiaid fel Michael Stipe [REM], The Decemberists, a’r uwch-grŵp roc diwydiannol Pigface.
Yn 2022, cyfansoddodd Gaelynn Lea y sgôr wreiddiol ar gyfer Macbeth ar Broadway, gyda Daniel Craig a Ruth Negga yn serennu. Diolch i Gymrodoriaeth Gelfyddydau Whippoorwill yn ddiweddar, mae ei thrac sain yn cael ei ryddhau o’r diwedd a bydd yn perfformio detholiadau o’r trac sain yn ystod ei thaith gyngerdd yn y DU.
Un o ddiddordebau mwyaf Gaelynn Lea yw hyrwyddo Diwylliant Anabledd. Cyd-sefydlodd RAMPD [Recording Artists and Music Professionals with Disabilities - Artistiaid Recordio a Gweithwyr Cerddoriaeth Proffesiynol ag Anableddau] yn 2022 ac ers hynny mae wedi cysylltu ag artistiaid Byddar ac anabl ledled y byd, gan gynnwys Ruth Lyons a James Holt yn y DU.
Mae Rightkeysonly yn E.D.M. artist, sy'n adnabyddus am ddod â churiadau arbrofol a gwaelodlinau trwm i sector cerddoriaeth Cymru. Ers iddi ddechrau fel byscer, mae Keys wedi mynd ymlaen i ddod â drwm a bas byw i erddi Castell Caerdydd, techno-grime i fryniau glaswelltog Powys, ac electro-metel i donnau awyr BBC Introducing Wales. Mae Keys yn defnyddio cerddoriaeth i rymuso artistiaid Anabl eraill, fel hi, gyda'r gobaith o weld sector mwy cynhwysol un diwrnod.
Mae ein rhaglen Cynnal yn Chapter yn cael ei chyflwyno gan ein cymdeithion creadigol a’r gymuned leol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn llogi lle yn Chapter ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r tîm Llogi.
More at Chapter
-
- Hosted at Chapter
Little Hands Big Change
Dwylo bach, newid mawr - dewch i beintio, chwarae a phrotestio dros Balestina. Dydd Sadwrn, 15 Mawrth, 10.30am-2.30pm.
-
- Hosted at Chapter
Creating SpACE
Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn eich gwahodd i'w harddangosfa 'Creating SpACE'.
-
- Hosted at Chapter
Garddio: Gweithdai Lles i’r Gymuned LHDTC+
Ymunwch â ni am brofiad creadigol a sylfaenol!
-
- Hosted at Chapter
Bouncers