Film
Fungi: Web of Life
Nodweddion
Awstralia | 2023 | 60’ | Dim Tystysgrif | Gisela Kaufmann, Joseph Nizeti, Mike Slee
Mae holl fywyd y Ddaear wedi’i gysylltu gan ddirgelwch mawr nad ydyn ni ond newydd ddechrau ei ddatrys. Wedi’i guddio rhwng byd planhigion ac anifeiliaid, mae byd arall yn bodoli. Rydyn ni’n ymuno â’r biolegydd Dr Merlin Sheldrake ar daith drwy fyd dirgel llawr coedwig yn Tasmania wrth i ni chwilio am y madarch glas gwerthfawr a allai gynnig atebion i oroesiad y ddynolryw. Yn ystod y daith rydyn ni’n dysgu am yr organebau mawreddog ac anarferol yma sydd wedi bod yn ganolog i stori genedigaeth, marwolaeth ac aileni byd natur ers dechrau amser.
Sinema Slime Mother
O glasuron cwlt i ffilmiau diweddar, mae’r detholiad yma o ffilmiau – a ddewiswyd mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer – sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.
Mae’r ffilm yma, sydd wedi’i dewis mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer, yn rhan o Sinema Slime Mother, sef detholiad o glasuron cwlt a ffilmiau diweddar, sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, ac yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae pob tocyn ar gyfer y tymor yma ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.