i

Workshop

Frankie Armstrong: Voicing the Archetypes of Myth

  • 2h 0m

£5 - £12

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Workshop

Mae gweithdy Voicing the Archetypes of Myth yn cyd-fynd â Trothwy: Scores for Self Adventure (without Salvation), sef noson o berfformiadau wedi’i churadu gan Anushiye Yarnell.

Am filoedd o flynyddoedd, roedd ein cyn-deidiau’n canu i gyd-fynd â’r gwaith, defosiwn, defodau tymhorol a chynulliadau cymdeithasol – i fynegi llawenydd, galar, dicter, tynerwch, gobaith ac ofn. Gellir rhoi ystod lawn i’r holl emosiynau yma drwy bŵer a harddwch y llais.

Er mwyn helpu i ddatgloi hyn, mae Frankie’n defnyddio ystod o symudiadau ac ymarferion tyner i helpu i ymlacio a rhyddhau’r corff a’r llais. Mae’n canolbwyntio ar sut mae cynnwys y corff cyfan – i wneud lle i’r llais o’r traed i fyny.

Yn Voicing the Archetypes of Myth, mae gwaith paratoi cyffredinol corff-anadl-llais yn arwain at archwiliadau o archdeipiau mytholegol gan ddefnyddio symudiad, delweddu, dychymyg a chwarae lleisiol. Mae Frankie’n tywys cyfranogwyr drwy stori lle gallant ymgorffori byd mawr y ffigurau di-amser mewn mytholeg a chwedloniaeth, a’r rhinweddau lleisiol maen nhw’n eu hysgogi.

Gwisgwch ddillad llac a chyfforddus.
Dewch â photel ddŵr, a chalon a meddwl agored.


Amdan yr artist...

Mae Frankie Armstrong wedi bod yn canu’n broffesiynol ar y sîn werin ac yn y mudiadau menywod a heddwch ers y 1960au, gan arloesi gweithdai llais cymunedol yn 1975. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd mae’r llais yn gallu gwella ymdeimlad unigolyn o les a datblygu ymdeimlad o gymuned. Mae’n gallu ein cysylltu ni ag edefyn cân sy’n ein cyrraedd drwy ein cyn-deidiau. Felly, mae hi wedi bod â diddordeb erioed yn archwilio llais a chân yn eu dimensiynau hanesyddol, diwylliannol, gwleidyddol ac ysbrydol.

Frankie yw sylfaenydd a Llywydd y Rhwydwaith Llais Naturiol, a ddeilliodd o’i gwaith addysgu a hyfforddi llais. Cafodd datblygiad ei gweithdai llais a chanu ei lywio gan ei hangerdd am arddulliau canu traddodiadol yn Ynysoedd Prydain ac o’r byd i gyd, yn ogystal â’i chyfraniad at ddatblygiad ‘llais naturiol’ yn y byd theatr (yn benodol gwaith Cicely Berry a Kristin Linklater).

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cynnal gweithdai gyda bron i bob math o grŵp – ar gyfer plant o bob oed a gallu, cwmnïau theatr proffesiynol, grwpiau cymunedol a menywod, pobl ag anableddau, myfyrwyr drama, therapyddion, cleifion seiciatrig, myfyrwyr canu gwerin a’r henoed. Waeth beth yw ffocws penodol ei gweithdai, mae’n credu mewn creu awyrgylch cefnogol a hael lle nad yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu barnu neu eu bod dan bwysau i gael pethau’n “iawn”. Y nod yw helpu pobl i ganfod eu llais unigryw sy’n cynhyrchu egni, hyder, ac ymdeimlad o fywyd llawn.

Share

Times & Tickets