Film

Four Daughters (ctba)

  • 1h 47m

Nodweddion

  • Hyd 1h 47m

Ffrainc | 2023 | 107’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Kaouther Ben Hania | Arabeg, Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg

Hind Sabri, Nour Karoui

Roedd gan Olfa Hamrouni o Dwnisia bedair o ferched, ond diflannodd y ddwy hynaf, heb ddychwelyd. Ar ôl cael eu radicaleiddio gan eithafwyr Islamaidd, aethon nhw i Libya i ymladd gydag ISIS. Mae’r ffilm ddogfen yma, a enwebwyd am wobr Oscar, yn dadansoddi eu hanes cymhleth drwy gyfweliadau a pherfformiadau agos-atoch; gan gastio actoresau proffesiynol fel y merched coll, yn ogystal â’r actores Eifftaidd-Dwnisiaidd glodwiw, Hend Sabri fel Olfa. Archwiliad diddorol o wrthryfela, cof a chwaeroliaeth sy’n rhoi ymreolaeth i’r menywod adrodd eu stori bersonol o lawenydd a cholled, gan fyfyrio ar hanes cythryblus Tiwnisia yn dilyn y Gwanwyn Arabaidd, sef ymgyrch addawol a ddechreuodd yn y wlad.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share