Film

Films From Scratch + trafodaeth (adv 12A)

adv12A
  • 2024
  • 1h 0m
  • Wales

Nodweddion

  • Tarddiad Wales
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 0m
  • Tystysgrif adv12A
  • Math Film

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, bu Gritty Realism yn cynnal gweithdai ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Chapter, Canolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon, a Chwm Aber, gan greu ffilm a oedd yn cyfuno clipiau ffilm ac animeiddio crafu i dynnu sylw at waith yr Archif Sgrin a Sain sy’n dathlu hanes ffilm yng Nghymru ac yn cadw ffilm ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gallwch weld y ffilm gydweithredol wych yma ar y sgrin fawr am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

I gyd-fynd â’r ffilm grafu gydweithredol, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi rhoi rhaglen o ffilmiau byrion wedi’u hanimeiddio at ei gilydd sy’n defnyddio’r un dechneg grafu. O fydoedd lliwgar haniaethol i ffilmiau dogfen llawn gwybodaeth, mae’r rhaglen yn dangos sut mae gwneuthurwyr ffilm yn defnyddio’r dechneg yma i greu straeon hyfryd ac animeiddiadau ar ffilm.

Share