
Workshop
Gweithdy Animeiddio 2D ar gyfer pobl ifanc 13-18 oed
- 2h 0m
Nodweddion
- Hyd 2h 0m
Sesiwn am ddim gydag Efa Blosse-Mason a Winding Snake Productions, lle dangosir i chi sut mae gwneud animeiddiad stop-symud gydag amrywiaeth o ddeunyddiau a fformatau. Does dim angen profiad blaenorol!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at moviemaker@chapter.org.
Dyma un o sawl digwyddiad a wnaed yn bosibl drwy rodd gan y Brainwave Trust, er cof am Ewart Parkinson OBE.
Peiriannydd a Chyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chynllunio ar gyfer Cyngor Sir De Morgannwg oedd Ewart Parkinson, a arweiniodd y gwaith o droi canol dinas Caerdydd yn ardal i gerddwyr ac o ddatblygu Bae Caerdydd. Roedd yn angerddol am gefnogi creadigrwydd a chynwysoldeb yng Nghaerdydd a Chymru. Ein nod ar gyfer y rhaglen yma, sy’n cael ei hariannu, yw annog a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau dawnus.