
UDA | 2022 | 107’ | 15 | Mark Mylod | Anya Taylor-Joy, Ralph Fiennes, Nicholas Hoult
Mewn bwyty uchel-ael ar ynys arfordirol, mae’r hynod gyfoethog yn cyrraedd i fwyta bwydlen aml-gwrs foethus wedi’i pharatoi gan gogydd ecsentrig. Mae Margot yno fel dêt munud olaf i Tyler, ond ymddengys mai dim ond hi sy’n amheus o ddulliau coginio’r Cogydd Slowik. Drwy gydol y noson mae ei phresenoldeb yn tarfu ar ei gynlluniau ar gyfer y noson. Gyda chast danteithiol o actorion, mae cyfarwyddwr Succession Mark Mylod yn troi ei lens at ddiwylliant bwyd moethus.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw