
Y Ffindir | 2023 | 91’ | 15 | Jalmari Helander | Jorma Tommila, Jack Doolan
Yn ystod diwrnodau enbyd olaf yr Ail Ryfel Byd, mae chwilotwr aur unig yn dod ar draws Natsïaid ar encilfa tir llosg yng ngogledd y Ffindir. Pan mae’r Natsïaid yn dwyn ei ysbail, buan maen nhw’n darganfod nad cloddiwr cyffredin mohono. Waeth beth mae’r Natsïaid yn ei daflu ato, bydd y fyddin farwol un aelod yma yn mynd i bellteroedd gwarthus i gael ei aur yn ôl. Yn y ffilm fachog a phrysur yma, mae’r cyn-filwr chwedlonol yn ymgorffori “sisu”: ffurf o ddewrder brawychus a phenderfyniad annirnadwy er gwaetha’r tebygolrwydd.