Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Saint Omer (12A)

Gwen 3 - Iau 9 Chw
,

Ffrainc | 2022 | 123’ | 12A | Alice Diop | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Kayije Kagame, Guslagie Malanda

Mae Rama y nofelydd yn mynd i achos llys Laurence Coly, menyw sydd wedi’i chyhuddo o ladd ei merch drwy ei gadael ar draeth yng ngogledd Ffrainc. Wrth i’r achos fynd yn ei flaen, bydd geiriau’r cyhuddedig a thystiolaeth y tystion yn ergyd i euogfarnau Rama ac yn bwrw amheuaeth ar ein barn ein hunan. Ar ôl dod yn adnabyddus am ei ffilmiau dogfen, mae Diop yn troi at ddrama achos llys gyffrous. Ffilm sy’n archwilio ac yn cwestiynu ein disgwyliadau a’n rhagdybiaethau; dyma un o ffilmiau mwyaf cyffrous 2023.

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd