
UDA | 2023 | 106’ | 12a | Celine Song | Saesneg a Chorëeg gydag isdeitlau Saesneg | Greta Lee, Teo Yoo, John Magaro
Mae Nora a Hae Sung, dau gyfaill plentyndod â chysylltiad dwfn, yn cael eu rhwygo ar wahân ar ôl i deulu Nora ymfudo o Dde Corea. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach mae Nora, sydd bellach yn fyfyrwraig ysgrifennu dramâu yn Efrog Newydd, yn ailgysylltu â Hae Sung ar-lein; maen nhw’n dechrau siarad yn aml, a hyd yn oed yn dychmygu aduno. Ond mae deuddeg mlynedd arall yn mynd heibio cyn iddyn nhw gwrdd o’r diwedd dros ychydig ddyddiau tyngedfennol yn Efrog Newydd. Ffilm nodwedd gyntaf y dramodydd Celine Song, sy’n hynod ramantus a phoenus, ac yn cynnwys perfformiadau hudol gan y tri prif gymeriad. Dyma stori serch sy’n cael ei hadrodd dros dri chyfnod mewn amser, yn archwilio’r cysyniad Coreaidd o ‘In Yun’ - sut mae ein tynged wedi’i gyrru gan ein cysylltiadau mewn ymgnawdoliadau blaenorol.
Mae Reclaim the Frame yn cynnal digwyddiad ar Sul 10 Medi am y dangosiad ffilm 1.40yp + cyflwyniad, wedi'i ddilyn gan weithdy ysgrifennu hefo Sophie Buchaillard o 3.30yp.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi