
Gan Arthur Miller
Cyfarwyddwyd gan Lyndsey Turner
Mae helfa wrachod ar ddechrau mewn dameg glasurol am bŵer gan Arthur Miller, gydag Erin Doherty (The Crown) a Brendan Cowell (Yerma).
Mae grŵp o fenywod ifanc yn Salem, sydd wedi’u magu i gael eu gweld ac nid eu clywed, yn sylweddoli yn sydyn bod gan eu geiriau bŵer hollalluog. Wrth i hinsawdd o ofn, fendeta a chyhuddo ledaenu drwy’r gymuned, does neb yn ddiogel rhag y prawf.
Lyndsey Turner (Hamlet) sy’n cyfarwyddo’r llwyfaniad newydd cyfoes yma, wedi’i ddylunio gan enillydd Gwobr Tony, Es Devlin (The Lehman Trilogy). Wedi’i ffilmio’n fyw o lwyfan Olivier yn y National Theatre.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw