
Denmarc | 2022 | 117’ | 18 | Ali Abbasi | Zar Amir Ebrahimi
Mae ffilm nodwedd soffomor Ali Abassi yn adrodd achos y Llofrudd Pry Cop, sef llofrudd cyfresol a oedd yn lladd gweithwyr rhyw yn Iran. Mashhad, dechrau’r 2000au. Er mai dyma ddinas sanctaidd y wlad, mae ei phreswylwyr yn anghyfforddus. Mae llofrudd cyfresol yn eu plith, ac yn targedu gweithwyr rhyw ac yn adrodd am eu troseddau – yn ogystal â lleoliad cyrff ei ddioddefwyr, wedi’u lapio mewn carpedi – wrth bapur newydd lleol.
Pan gaiff Rahimi ddi-lol ei throsglwyddo i’r papur yn dilyn sgandal misogynistaidd yn ei gweithle diwethaf, mae’n mynd ati ar unwaith i ymgolli yn nhywyllwch y ddinas. Gan deithio’n ddyfnach i’r achos, gan ddynoli’r menywod a lofruddiwyd a cheisio delio â system farnwrol gymhleth y ddinas, mae Rahimi’n darganfod nad yw rhai pobl yn credu bod gweithredoedd y Llofrudd Pry Cop yn drosedd...
Gyda bwriad tanbaid, mae Abbasi (Border, LFF 2019) yn ailffurfio genre’r llofrudd cyfresol nodweddiadol, gan greu ffilm sydd nid yn unig yn delio â cheisio dod â throseddwr o flaen ei well, ond sydd hefyd yn archwilio beth mae ‘cyfiawnder’ wir yn ei olygu yn y byd yma.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw