
UDA | 2023 | 92’ | 12a | Babak Jalali | Anaita Wali Zada, Jeremy Allen White, Gregg Turkington
Mae Donya’n gweithio mewn ffatri cwcis ffawd Tsieineaidd yn San Francisco. Yn gyfieithydd i fyddin yr Unol Daleithiau yn Affganistan gynt, mae’n ei chael yn anodd rhoi trefn ar ei bywyd unwaith eto. Mewn eiliad sydyn, mae’n penderfynu anfon neges arbennig allan mewn cwci. Wedi’i saethu mewn du a gwyn breuddwydiol, gyda hiwmor sych coeglyd a chynnes, dyma bortread cain o fenyw yn dod i delerau gyda thawelwch bywyd da ar ôl mynd trwy stormydd rhyfel.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi