
Prydain | 2023 | 60’ | 15 | Will Anderson, Ainslie Henderson
Mae A Cat Called Dom yn trafod perthynas y gwneuthurwr ffilm, Will Anderson, gyda’i fam, a’u taith ar ôl iddi gael diagnosis o ganser. Ar ei ben ei hunan, mae Will yn ymddiried mewn cath animeiddiedig o’r enw Dom – cymeriad chwilfrydig sy’n byw yn sgrin ei gyfrifiadur, sy’n cynnig arsylwadau, cwestiynau a gweithredoedd sy’n taflu goleuni ar deimladau Will mewn modd tywyll a doniol, a theimladwy yn aml.
Wedi’i chreu gyda’i gydweithiwr a’i gyd-gyfarwyddwr, Ainslie Henderson, mae’r ffilm yn dogfennu’r emosiynau niferus mae Will yn eu profi, wrth iddo gydbwyso trawma personol a phwysau creu ffilm, gan ddod i delerau â cholled ysgytwol bosib.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi