Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

BAFTA Cymru Awards Sessions: Feature/Television Film Screening

Sesiynau Gwobrwyo BAFTA Cymru: Dangosiadau Ffilm Nodwedd/Teledu

Iau 21 , Llun 25 - Maw 26 Medi

Ymunwch a ni i wylio'r ffilmiau sydd wedi’u henwebu yng nghategori Ffilm Nodwedd/Deledu. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r arlwy ar gyfer Sesiynau Gwobrau BAFTA Cymru – sef cyfres o ddigwyddiadau a dangosiadau sy’n dathlu’r rhai sydd wedi cael eu henwebu, ynghyd a’r ffilmiau/rhaglenni enwebedig o Wobrau BAFTA Cymru 2023.

 

DONNA

Dydd Iau 21 Medi, 6:30yp – 8:00yp, Cinema 2.

Synopsis:

Wedi’i chyfarwyddo gan Jay Bedwani, mae Donna yn bortread agos-atoch a gonest o’r artist ac actifydd trawsrhyweddol ysbrydoledig, Donna Personna. Mae’n dilyn ei thaith i fyw fel hi ei hun, ac i ailgysylltu â’i theulu.

 

FIVE DATES

Dydd Llun 25 Medi, 6:30yp – 8:30yp, Cinema 2.

Mae Five Dates yn gomedi rhamantus rhyngweithiol am y byd annelwig o chwilio am gariad ar lein. Mae Vinny yn ddyn ifanc o Lundain sy'n ymuno ag ap dêtio am y tro cyntaf – a hynny yn ystod cyfnod clo’r pandemig. Wrth iddo gysylltu â pump dêt posib, mae rhaid i Vinny ffeindio'r dewrder i fynd ar ddêt fideo gyda'r menywod sydd â phersonoliadau gwbl wahanol.

Bydd hyn yn ddangosiad ffilm ryngweithiol wedi’i harwain gan Dr David Banner MBE (Comisiynydd a Chynhyrchydd Gweithredol) o Wales Interactive, John Giwa Amu (Cynhyrchydd) o Good Gate Media a Paul Raschid (Awdur a Chyfarwyddwr). Bydd y gynulleidfa yn pleidleisio am opsiynau fydd yn addasu'r naratif.

 

Y SŴN

Dydd Mawrth 26 Medi, 6:30yp-8:15yp, Cinema 2.

Synopsis:

Mae Y Sŵn yn portreadu un o benodau mwyaf lliwgar hanes Cymru wedi ei hadrodd mewn ffordd greadigol ac unigryw. Yn 1979, fe ddaeth Margaret Thatcher i rym gyda maniffesto ag addawodd sefydliad sianel deledu yn y Gymraeg. Ar ôl ychydig o fisoedd mewn grym, fe aeth hi yn ôl ar ei gair a sbarduno protestiadau eang ar draws Cymru. Gydag ymwrthedd sifil yn bygwth, mae’r gwleidydd eiconig Gwynfor Evans yn ymrwymo i lwgu i farwolaeth os na fydd y llywodraeth yn newid meddwl.

Prisiau:

FREE / AM DDIM

Tocynnau ac Amseroedd