
UDA | 2023 | 106’ | PG | Kelly Fremon Craig | Abby Ryder Fortson, Rachel McAdams, Kathy Bates, Benny Safdie
Mae Margaret 11 oed yn gorfod gadael ei bywyd yn Efrog Newydd am faestrefi New Jersey, lle mae’n delio â throeon blêr a chythryblus y glasoed yn ogystal â gwneud ffrindiau yn ei hysgol newydd, ac yn esblygu ei syniadau am grefydd gyda phriodas ryng-ffydd ei rhieni. Mae’n dibynnu ar ei mam, Barbara, sydd hefyd yn ei chael yn anodd addasu i fywyd y tu allan i’r ddinas, a’i nain faldodus, Sylvia, sy’n anhapus eu bod nhw wedi symud – ac sy’n hoffi eu hatgoffa o hynny bob cyfle. Ffilm ddadleuol pan gyhoeddwyd hi ym 1970, ac mae’r stori glasurol ddidwyll yma am archwilio bod yn ferch yn y glasoed gan Judy Blume yn cael ei hadrodd gyda threiddgarwch, hiwmor a gonestrwydd caredig.