
Prydain | 2021 | 93’ | 15 | Andrew Gaynord, Tom Stourton, Dustin Demri-Burns
Mae’n ben-blwydd ar Pete ac mae’r hen griw coleg yn aduno am barti penwythnos mewn plasty gwledig. Yn llawn cyffro ac optimistiaeth i ddechrau, mae pen Pete yn dechrau troi wrth i’w ffrindiau droi yn ei erbyn, un ar ôl y llall, a buan iawn mae’n llawn ofn. Dydy e ddim yn deall: ydy e’n cael ei gosbi? Ydy e’n gorfeddwl? Neu ai rhyw fath o jôc sâl yw hyn? Gan droedio llinell denau rhwng comedi dywyll a drama seicolegol annifyr, mae’r tensiwn yn cynyddu wrth i ymdrechion Pete i gysylltu gyda’i ffrindiau droelli rhwng anghysur doniol a dwyster annisgwyl. Comedi ffraeth sydd wedi’i hamseru’n berffaith i ymateb i or-bryder cymdeithasol yn dilyn y pandemig.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi