
Prydain | 2023 | 86’ | 12a | Christopher Morris
Yng nghanol cae yng ngorllewin Cernyw mae’r Longstone, sef crair naturiol sydd wedi bod yn dyst tawel i 4,000 o flynyddoedd o hanes cythryblus. Yn y ffilm fyfyriol yma, mae’r gwneuthurwr ffilm Christopher Morris yn dogfennu blwyddyn ym mywyd y maen hir yma, wrth iddo frwydro’r elfennau. Gan ddechrau ar heuldro’r gaeaf 2020, mae’r bobl o’i gwmpas yn mynd trwy gyfnod anodd, ac yn fyd-eang, mae’r hinsawdd yn dechrau datod. Wedi’i saethu’n hyfryd gyda gwaith dylunio sain haenog a chyfoethog, mae’r dull yma’n caniatáu i’r gynulleidfa feddwl am y newidiadau mae dyn wedi’u gwneud, ac mae’r garreg yma wedi’u gweld.
Ymuno a ni am sesiwn holi ac ateb gyda Christopher Morris and Denzil Mon ar ôl y ddangosiad ar ddydd Gwener 22 Medi, 7.30yh.
Sul 24 , Maw 26 - Mer 27 Medi