i

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Art

Feeding Chair

Free

Nodweddion

Gwaith celf cydweithredol teithiol yw Feeding Chair (2022), sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u plant mewn lleoliadau cyhoeddus.

Mae’r gadair yn cynnwys gwaith celf gan Jade de Montserrat, ac mae hefyd yn integreiddio gwaith sain a fideo gan artistiaid ac ymgyrchwyr am fwydo babanod, rhywedd, a mannau cyhoeddus. Mae’r gwaith yn gweithredu fel canolbwynt i rannu profiadau a herio agweddau cymdeithasol tuag at fwydo a bod yn fam.

Rydyn ni’n cydweithio gyda The Birth Partner Project, elusen o Gaerdydd sy’n darparu partneriaid geni gwirfoddol i gefnogi menywod sy’n ceisio lloches a fyddai fel arall yn wynebu beichiogrwydd, genedigaeth a bod yn fam ar eu pennau eu hunain. Byddwn yn gweithio ar y cyd i ystyried sut gall ein caffi gyfrannu at iechyd cyhoeddus ein cymunedau lleol a dod yn lle mwy croesawgar sy’n ateb anghenion rhieni a gofalwyr â phlant ifanc.

I gyd-fynd â’r gadair bydd Feeding Futures Floor Flag, a grëwyd gan Sally Sutherland fel man ar gyfer cysylltiad, teimladau, gwrando a dealltwriaeth well rhwng cenedlaethau o brofiadau amrywiol o fwydo babanod.

Datblygwyd The Feeding Chair gan In Certain Places, menter celf gyhoeddus ym Mhrifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn, fel rhan o Feed — prosiect sy’n archwilio bwydo babanod a mannau cyhoeddus. Fe’i dyluniwyd gyda Textbook Studio, ei chreu gan M3 Industries ac fe’i cyflwynir gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr.

www.feedproject.art

Pennyn
The Feeding Chair with Meysa and Razan
Llun: Fiona Finchett

Share