
Film
Evolution of Horror presents: The Stuff (15)
- 1h 27m
Nodweddion
- Hyd 1h 27m
- Math Film
UDA | 1985 | 87’ | 15 | Larry Cohen | Michael Moriarty, Scott Bloom, Andrea Marcovicci, Paul Sorvino
Mae’r pwdin newydd, The Stuff, yn gwerthu’n wych mewn archfarchnadoedd. Ond un noson, mae Jason yn gweld rhywbeth rhyfedd yn yr oergell ac yn sylwi bod pawb sy’n ei fwyta yn dechrau ymddwyn yn rhyfedd. Gan ymuno â’r difrodwr diwydiannol ffraeth Mo, maen nhw’n codi yn erbyn y gorfforaeth cyn iddyn nhw ddod i dranc llysnafeddog. Mae’r arswyd gomedi yma, sy’n damaid o The Blob, ac yn damaid o They Live, gan y sothach-feistr Larry Cohen (Maniac Cop; It’s Alive!) yn wledd ludiog.
Sinema Slime Mother
O glasuron cwlt i ffilmiau diweddar, mae’r detholiad yma o ffilmiau – a ddewiswyd mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer – sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.
Mae’r ffilm yma, sydd wedi’i dewis mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer, yn rhan o Sinema Slime Mother, sef detholiad o glasuron cwlt a ffilmiau diweddar, sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, ac yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae pob tocyn ar gyfer y tymor yma ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5. I weld mwy o ffilmiau’r tymor yma, ewch i Chapter | Slime Mother.
Yr hyn mae pobl yn ddweud
“Mae The Stuff yn parhau i weithio ar lefelau o sothach tramgwyddus a dychan pur… ffilm gartwnaidd sy’n feddylgar hefyd, ac mae bob amser yn cynnig adloniant ac edmygedd o syniadau uchelgeisiol Cohen.”
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Six the Musical Live!
O Freninesau Tuduraidd i Eiconau Pop, mae gwragedd Harri VIII yn adennill eu stori.
-
- Film
Warfare (15)
Stori ddirdynnol a phwerus am filwyr ar genhadaeth yn Irac mewn amser go iawn.
-
- Film
The Penguin Lessons (12A)
The true story of an Englishman teaching in Argentina who develops a strange friendship.