Film

Evolution of Horror Presents: Black Christmas (18)

18
  • 1974
  • 1h 34m
  • Canada

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Bob Clark
  • Tarddiad Canada
  • Blwyddyn 1974
  • Hyd 1h 34m
  • Tystysgrif 18
  • Math Film

Wrth i wyliau’r gaeaf ddechrau, mae criw o ferched mewn chwaeroliaeth yn dechrau cael galwadau ffôn anweddus dienw. I ddechrau, mae Barb hyderus yn annog y ffoniwr, ond mae’n stopio pan mae ei ymateb yn troi’n fygythiol. Yn fuan, mae ffrind Barb, Clare, yn mynd ar goll, ac mae merch leol yn ei harddegau’n cael ei llofruddio, ac mae’r merched yn amau bod llofrudd cyfresol yn rhydd. Ond does neb yn sylweddoli mor agos mae’r troseddwr. Dyma un o enghreifftiau gwreiddiol (a gorau o bosib) y genre Slasher; roedd y ffilm wleidyddol flaengar a hwyliog yma, sy’n cynnig rhywbeth amgen i’r arlwy Nadolig arferol, yn ddylanwad allweddol ar John Carpenter, a byddai ei chyfarwyddwr yn mynd ymlaen i greu un arall o hanfodion y Nadolig, sef y ffilm deimladwy i’r teulu A Christmas Story.

Ymunwch â thrafodaeth dan arweiniad Evolution of Horror

Share