Performance

Eve Stainton: Impact Driver

  • 1h 0m

£12 - £14

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Dance

14+ | 1awr

Mae’r artist a’r lluniwr perfformiadau Eve Stainton yn cyflwyno eu gwaith coreograffig teithiol, Impact Driver, sy’n cynnwys gwaith weldio, symud, a sain byw gan Leisha Thomas a Mica Levi, ac sy’n cael ei berfformio gan Tink Flaherty, Imani Mason Jordan, Romeo Roxman Gatt ac Eve Stainton.

Gan weithio gyda chysyniadau amser cael eich ‘dal yn y weithred’ a bod ‘ar bigau’r drain’, mae Eve yn archwilio sut mae gan ‘dyndra’ botensial i fod yn bresenoldeb mewn hunaniaethau lesbiaidd a thraws-wrywaidd; yn ymestyn amser, yn arswydus, yn abswrdaidd. 

Mae Impact Driver yn edrych ar fethodolegau ar gyfer adeiladu tyndra tebyg i ffilm gyffro, a sut mae modd cynnal y tyndra hwnnw i fod yn brif ddigwyddiad yn absenoldeb uchafbwynt neu ddatrysiad traddodiadol. Gan fenthyca’r rhesymeg o weithdy weldio, mae Eve yn rhoi pwyslais ar weithgareddau sy’n gofyn am negodi a gwneud penderfyniadau’n fyw; gan ddangos sut mae golygfeydd a gwrthrychau yn cymryd siâp ac yn parhau i symud drwy ystyron, atmosfferau, dillad, teimladau a defnyddiau; yn gynhyrchiol ac mewn tensiwn. 

Mae weldio’n bwerus i fi mewn cymaint o ffyrdd – ei bresenoldeb alcemegol cryf, ei theatrigrwydd eithafol, ei gapasiti am berygl/cyffro/drama/pŵer/gwefr, ei synwyrusrwydd, ei hyfdra.”, Eve Stainton 

Gydag ensemble sy’n dod o amrywiol gefndiroedd creadigol, nad ydyn nhw fel arfer yn gweithio ym maes dawns, mae’r ymchwil yma’n parhau ag arfer Eve o ddathlu’r profiad lesbiaidd anghydffurfiol o ran rhywedd a’r profiad traws-wrywaidd, y mae llawer ohonynt, a beth mae rhoi llwyfan i’r hunaniaethau yma’n ei olygu i’r canon dawns gyfoes gwyn gorllewinol. 

Mae'r prodiect yma wedi'i cefnogi gan Kamila Serkebeava.


Ynglun â'r artist

Artist sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth presenoldeb cwiar angodadwy a’i groestoriadau gyda hil a dosbarth yw Eve Stainton. Maen nhw’n creu bydoedd perfformio amlddisgyblaethol sy’n dal arferion symud, clytwaith digidol, a dur wedi’i weldio, a grymoedd anweledig eraill fel tonnau, dychymyg a drama. Mae’r ffurfiau yma’n cydweithio i greu ecolegau byw sy’n anghydnaws, yn amlhaenog, ac yn seicedelig. Mae gan Stainton ddiddordeb mewn cynhyrchu cyflyrau a gweadau sy’n gwrthdaro i ddatod meddwl hanfodolaethol, gyda’r nod o greu dealltwriaeth fwy eang o’r hunaniaeth lesbiaidd, di-rywedd/amrywiant rhywedd a chanfyddiadau o’r ‘real’.  

Mae eu cyflwyniadau blaenorol yn cynnwys: Comisiwn ‘Dykegeist’ (ICA, Lloegr), Close Encounters (Denmarc), Le Guess Who (Yr Iseldiroedd), Horizon Showcase (Lloegr), Bergen Kunsthall (Norwy), Tanzquartier Wien (Awstria), My Wild Flag (Sweden), Dampfzentrale (Y Swistir), Comisiwn Hysbysfwrdd ym Manceinion (Lloegr), arddangosfa Gwobr PCS (Portiwgal), rhaglen berfformiad Gwyl Dwyflynyddol Fenis gyda Florence Peake (Yr Eidal), Block Universe (Lloegr), The Place (Lloegr), Nottingham Contemporary (Lloegr), Crac Occitanie (Ffrainc), Sadler’s Wells (Lloegr), La Becque (Y Swistir), LCMF (Lloegr), CCA Glasgow (Yr Alban), Tangente (Canada). www.evestainton.com   

Cysyniad a Choreograffi: Eve Stainton 
Perfformiad: Eve Stainton, Tink Flaherty, Mica Levi, Imani Mason Jordan, Romeo Roxman Gatt a Leisha Thomas 
Byd Sain: Mica Levi a Leisha Thomas 
Cynhyrchydd: Michael Kitchin 
Dylunio a Chreu’r Set: H S Design Studios 
Rheolwr y Cynhyrchiad: Helen Mugridge 
Rheolwr Weldio: Hester Moriarty Thompson 
Cynllunydd Goleuo: Charlie Hope 
Cynllunydd Gwisgoedd: Ella Boucht 
Cynorthwyydd Gwisgoedd: Oline Bronee 
Cymorth Dramatwrgaidd: Liz Rosenfeld a Jamila Johnson-Small 
Gofal Artistiaid: Seyi Adelekun a Madinah Farhannah Thompson 
Cysylltiadau Cyhoeddus: Binita Walia 
Dramatwrg Hygyrchedd: Kat Bailed 
Cymorth Coreograffi: Florence Peake 
Teipograffeg 3D: Bora AKA Pauline Canavesio 

Cyd-gomisiynwyd gan Sadler’s Wells, Institute of Contemporary Arts, Take Me Somewhere, Canolfan Gelfyddydau Wysing a Dansehallerne. Cefnogwyd gan Bergen Kunsthall a Wainsgate. Cefnogwyd drwy arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr. Gyda diolch i Phyllida Barlow Studio am ddarparu dur.

Share

Times & Tickets

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy