
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1990
- Hyd 1h 33m
- Tystysgrif adv15
2.9 Arbitrary Law
UDA | 1990 | 46’ | cynghorir 15 | Tim Hunter
Mae Cooper yn gofyn am 24 awr i orffen ei achos. Mae James a Donna yn cadarnhau eu cariad. Mae Andy’n arwain Donna a Cooper yn ôl i dŷ Mrs Tremond drwy ddamwain.
+
2.10 Dispute Between Brothers
UDA | 1990 | 47’ | cynghorir 15 | Tina Rathborne
Mae Sarah Palmer yn ceisio dod i delerau â phopeth sydd wedi digwydd i'w theulu. Mae Dr. Jacoby yn dychwelyd o Hawaii. Mae Mayor Milford yn gwrthwynebu dyweddïad ei frawd â menyw iau.
____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 1 Mehefin 2025
-
Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025
Key
- C Capsiynau
More at Chapter
-
- Film
Episode 2.1 and 2.2 Twin Peaks
2.1 May the Giant Be With You 2.2 Coma
-
- Film
Episode 2.3 and 2.4 Twin Peaks
2.3 The Man Behind the Glass 2.4 Laura's Secret Diary
-
- Film
Episode 2.5 and 2.6 Twin Peaks
2.5 The Orchid's Curse 2.6 Demons
-
- Film
Episode 2.7 and 2.8 Twin Peaks
2.7 Lonely Souls 2.8 Drive with a Dead Girl