
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1991
- Hyd 1h 32m
- Tystysgrif adv15
2.17 Wounds and Scars
UDA | 1991 | 46’ | cynghorir 15 | James Foley
Mae Harry’n suddo i iselder dwfn. Mae chwaer gythryblus Norma, Annie, yn cyrraedd Twin Peaks. Mae sefyllfa ddiddatrys Cooper yn gwylltio Earle.
+
2.18 On the Wings of Love
UDA | 1991 | 46’ | cynghorir 15 | Duwayne Dunham
Ymosodir ar Harry yn ei gwsg. Mae Audrey a Wheeler yn dechrau perthynas. Mae Gordon Cole yn dychwelyd gydag adroddiad am Windom Earle ac yn dod â Cooper nôl.
_____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 29 Mehefin 2025
-
Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Key
- C Capsiynau