Events

Emma Callaghan: Sesiwn Ioga Byddar

  • 1h 0m

Free

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Workshops

Am ddim, ond bydd angen archebu tocynnau.

Digwyddiad Iaith Arwyddion Prydain yw hwn, gyda dehongliad yn Saesneg.

Ymlaciwch ar ddiwrnod olaf yr ŵyl gyda’r athrawes brofiadol Emma, sy’n dod â llonyddwch a phwyslais ar les yn yr ymarfer ioga adferol 60 munud yma.

Bydd Emma yn ein hannog i archwilio’r syniad o newid siâp corfforol a meddyliol, i’n helpu ni i gofleidio newid a thrawsnewid yn ein bywydau.

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda pranayama, sef ymarfer rheoli’r anadl, ac yna, gan ddefnyddio tapio a drymio, bydd yn annog daearu a rhyddhau egni nerfol. Byddwn ni’n symud i lif ymlaciol cyn arafu gyda chwpl o safleoedd yin.

Byddwn ni’n cloi’r sesiwn gyda Savasana gorffwysol.

Roedd Emma’n ymarfer ioga yn achlysurol am bum mlynedd cyn iddi fynd amdani a graddio fel athrawes ioga ym mis Ebrill 2024. Mae hi’n byw yn Scarborough, ac yn cynnig gwersi yn Scarborough ac Efrog. Mae hi wrthi’n paratoi i gynnal dosbarthiadau ar-lein.

Wind down on the last day of our festival with experienced teacher Emma, who brings us tranquillity and a focus on wellbeing in this 60-minute restorative yoga practice. 

Share

Times & Tickets

Key

  • BSL Iaith Arwyddion Prydain