Film

Elaha (15)

  • 1h 50m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 50m
  • Math Film

Yr Almaen | 2024 | 110’ | 15 | Milena Aboyan | Almaeneg a Chwrdeg gydag isdeitlau Saesneg

Bayan Layla, Hadnet Tesfai, Derya Durmaz, Armin Wahedi

Mae Elaha hardd a bywiog yn rhan o gymuned Almaenig-Gwrdaidd glos. Mae pawb yn byw yn yr un gymdogaeth ac yn gwybod busnes ei gilydd, sy’n golygu bod cyfrinachau’n anodd eu cadw. Mae priodas Elaha a Nasim ar ddod, ac mae llygaid pawb arni, ond mae gan Elaha broblem i’w datrys: dydy hi ddim yn wyryf bellach, cyflwr o ‘anrhydedd’ sydd o’r gwerth eithaf ym marn ei chymuned ac, yn fwy penodol, ei mam lem. Oes ffordd o ffugio gwyryfdod? Yn ofalus ac yn ddeallus, mae Aboyan yn archwilio pwysau’r cysylltiadau sy’n rhwymo Elaha, menyw ifanc a’i hymdrech gynyddol enbyd i uno’i theyrngarwch i draddodiadau Cwrdaidd â’i greddf fodern yn y ddrama gynnil a theimladwy yma am batriarchaeth, rhywioldeb a hunan-benderfyniad.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share