Film
El Cine Soy Yo (The Moving Picture Man) (15)
- 1h 34m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 34m
Venezuela | 1977 | 94’ | 15 | Luis Armando Roche | Sbaeneg gydag isdeitlau Saesneg | Asdrúbal Meléndez, Juliet Berto, Álvaro Roche, Jorge Almada
Ar ôl bod yn bedler, yn ffotograffydd stryd, yn gyflwynydd radio, yn heddwas ac yn fecanig, mae Jacinto’n penderfynu dod yn dafluniwr ffilm, gan obeithio dod â phrofiadau sinema i bobl Venezuela.
I ddianc rhag y ddinas fawr, mae’n trawsnewid cerbyd yn sinema deithiol siâp morfil. Mae Manuel, plentyn amddifad dewr 11 oed, yn cynnig ei helpu, ac yn ymuno â thaith Jacinto. Mae Ffrances ddirgel, Juliet, hefyd yn chwilio am antur, ac mae’n ymuno â nhw ar y daith sinemataidd yma i ben draw’r byd.
Mae’r ffilm glasurol dyner yma o Venezuela yn ddathliad o deulu anghonfensiynol a phŵer sinema mewn amgylchiadau anodd.
___
Cynhaliwyd yr adferiad 4K newydd o’r negatif 35mm gan Bolivar Films yn Caracas, sef y labordy a ddatblygodd y printiau gwreiddiol ar y cam ôl-gynhyrchu yn y saithdegau. Diolch i Bolivar Films a Marie-Françoise Barré de Roche.
Er sylw: mae golygfeydd o gam-drin anifeiliaid yn y ffilm.
+ Cyflwyniad gan guradur Cinema Rediscovered, Lorena Pino, ddydd Gwener 4 Hydref.
Digwyddiadur - cipolwg
Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.
Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!