Art
EIMEAR WALSHE: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
Free
Nodweddion
Drwy fideo a cherflunwaith, mae MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC yn archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro a gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.
Mae Walshe yn egluro effaith brwydrau tir Iwerddon ar wleidyddiaeth rywiol, perchnogaeth eiddo a phŵer yn Iwerddon heddiw. Mae gwreiddiau eu gwaith mewn cymuned a chydweithio gan ddefnyddio mathau o ddiwylliant poblogaidd yn chwareus, o hysbysebion gwybodaeth i operâu sebon, i ymdrin â materion o bwys fel ansicrwydd tai, hunaniaeth genedlaethol, ac ymgyrchu.
Dyma sioe unigol gyntaf Walshe yng ngwledydd Prydain, ac mae’n cynnwys y gwaith newydd ROMANTIC IRELAND (2024) ochr yn ochr â’r fideo aml-sianel a’r gosodwaith cerfluniol a gyflwynwyd ym Mhafiliwn Iwerddon yng ngŵyl Biennale Fenis 2024.
___
Ynglŷn â'r artist
Artist o Longford, Iwerddon yw Eimear Walshe (g.1992, nhw). Mae eu gwaith yn olrhain gwaddol y gwrthdaro am dir yn Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy eiddo preifat, ceidwadaeth rywiol, a’r amgylchedd adeiledig. Maen nhw wedi arddangos yn ddiweddar gyda Van Abbemuseum, EVA International, y National Sculpture Factory, Temple Bar Gallery + Studios, ac mae eu gwaith wedi’i gadw yng nghasgliadau Cyngor Celfyddydau Iwerddon ac Amgueddfa Celf Fodern Iwerddon.
___
Cefnogir gan Culture Ireland.
Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 11yb - 5yp.
___
Pennyn
Eimear Walshe ROMANTIC IRELAND (2024)
Llun: Faolán Care