Film
Eileen (15)
- 1h 37m
Nodweddion
- Hyd 1h 37m
UDA | William Oldroyd | Thomasin McKenzie, Shea Whigham Sam Nivola
Yn seiliedig ar lyfr â’r un enw gan y pwerdy llenyddol Ottessa Moshfegh, mae Eileen yn dilyn menyw ifanc hynod y mae ei bywyd di-nod yn llusgo drwy drallod di-ben-draw.
Yn Boston oeraidd y chwedegau, mae Eileen (Thomasin McKenzie) yn symud rhwng tŷ tlodaidd ei thad sy’n llawn emosiynau atgofus, a’r carchar y mae’n gweithio ynddo ochr yn ochr â chydweithwyr sydd wedi’i halltudio. Pan fydd menyw benfeddwol (Anne Hathaway) yn ymuno â staff y carchar, mae Eileen wedi dotio. Ond pan fydd y posibilrwydd o gyfeillgarwch achubol (neu fwy o bosib) yn dal gafael ac yn ffurfio llygedyn o oleuni yn nhywyllwch Eileen, mae ei chyfaill newydd yn ei thynnu i mewn i drosedd ysgytwol sy’n newid popeth.
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Queer (18)
Mae Lee’n edrych ’nôl ar ei fywyd yn Ninas Mecsico ymhlith myfyrwyr coleg Americanaidd a pherchnogion bar, gan oroesi ar swyddi rhan amser a budd-daliadau’r GI Bill. Mae’n mynd ar drywydd dyn ifanc o’r enw Allerton, sy’n seiliedig ar Adelbert Lewis Marker.