Film
Drylongso (15)
- 1h 26m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 26m
- Math Film
UDA | 1998 | 86’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Cauleen Smith | Toby Smith, April Barnett
Ffotograffydd ifanc yw Pica, sy’n tynnu lluniau o’r dynion ifanc Du yn ei hardal. Mae’n ofni am eu dyfodol, ar ôl gweld cymaint ohonyn nhw’n cael eu lladd neu eu colli i system garchardai ddideimlad yr Unol Daleithiau. Un noson, mae’n cwrdd â Tobi, sydd wedi cael ei cham-drin gan ei chariad. Mae’r ddwy’n ffurfio perthynas agos, tra bod llofrudd cyfresol, y ‘Westside Slasher’, yn dechrau lladd llawer o’r dynion mae Pica wedi tynnu lluniau ohonyn nhw. Mae teitl y ffilm, Drylongso, yn air sy’n deillio o’r bobl Gullah yn South Carolina a Georgia, sy’n golygu ‘cyffredin’. Yn lle cyfleu’r cyffredin, mae’r cyfarwyddwr Cauleen Smith yn canfod rhywbeth tyner a thrist, drwy ddefnyddio ffotograffiaeth Pica i archwilio ei pherthynas gyda’r bobl o’i chwmpas a’i hamgylchedd, ei ffrindiau a’i theulu, ei rhywedd, a dinas Oakland cyn iddi gael ei boneddigeiddio.
Cafodd y ffilm ei hadfer i 4K gan y Criterion Collection, Janus Films, a’r Academy of Motion Picture Arts and Sciences®, dan oruchwyliaeth y cyfarwyddwr Cauleen Smith.