Girl group TLC pose for a photograph against a neon pink background.

Film

Doc N Roll: TLC Forever (ctba)

  • 1h 30m

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Ym 1991, mae Tionne ‘T-Boz’ Watkins, Lisa ‘Left Eye’ Lopes, a Rozonda ‘Chilli’ Thomas yn ffurfio’r chwedlonol TLC; grŵp cerddoriaeth sydd wedi profi mwy o uchelfannau ac iselfannau na’r mwyafrif. O fethdaliad a chwympo allan i salwch a marwolaeth, mae torcalon a digwyddiadau dadleuol wedi dilyn gyrfa TLC cymaint â’r llwyddiannau aruthrol. Mae’r hyn sy’n dechrau fel grŵp a gafodd ei roi at ei gilydd gan eu cyn-reolwr a’u nemesis Pebbles, yn prysur droi’n chwaeroliaeth. Gyda chymysgedd o ffync, hip hop ac RnB, mae eu sain a’u hunaniaeth wedi esblygu, ond maen nhw bob amser wedi cadw eu naws wleidyddol. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r grŵp yn dal i geisio cyrraedd uchelfannau newydd. 

Drwy archif, vérité, a chyfweliadau, rydyn ni’n ymdrochi ym myd TLC, eu gorffennol a’u presennol, gan weld y troeon trwstan hyd yma, ac archwilio’r gwaddol maen nhw’n parhau i’w dyfu. 

Share