Film
Doc N Roll: Rock Chicks: I Am Not Female To You (ctba)
- 1h 19m
Free
Nodweddion
- Hyd 1h 19m
Gwrandewch yn astud ac fe glywch chi gitâr Memphis Minnie yn Chuck Berry ac Eric Clapton, ysbryd di-rwystr Sister Rosetta yn Jerry Lee Lewis, a chwyrnu Big Mama Thornton yn Elvis. Serch hynny, mae’r ffaith bod merched wedi rocio’r llwyfannau ers y pumdegau wedi cael ei wthio’n llwyddiannus o’r cof cyfunol. Mae’n bryd mynd i wraidd y peth, ac adrodd ochr arall y stori. Mae’r merched rydyn ni’n cwrdd â nhw ar ein taith yn ymroi eu bywydau i gerddoriaeth roc, mae pob un ohonyn nhw’n gryf, ac mor ysbrydoledig ag y maen nhw’n wahanol. ‘Mae’n rhaid i ti fod fel dyn. Ond alla i wneud e, menyw â cheilliau ydw i,” yw cred Linda Gail Lewis, tra bod Kathy Valentine o The Go-Go’s yn ystyried ei hunan yn ‘aderyn prin’. Mae Suzi Quatro yn honni nad yw hi’n ymwneud â rhywedd o gwbl, tra bod Rosie Flores yn pwysleisio ei rhinweddau benywaidd wrth chwarae’r gitâr. Penderfynodd Kristin Hersh o Throwing Muses adael y busnes cerddoriaeth rhywiaethol i gael ei chefnogi gan wrandawyr, oherwydd: ‘Beth fyddai fy mhlant yn meddwl pe bawn i’n edrych ar bob camera fel taswn i eisiau cysgu gydag e – fel maen nhw’n dweud wrthoch chi am wneud?’